Byddai’r mwyafrif o Albanwyr o blaid annibyniaeth i’r wlad pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, yn ôl pôl piniwn gan Panelbase.

53% yw’r ffigwr sylfaenol, ond mae’n codi’n uwch wrth ystyried ffactor Brexit.

Ac mae 59% yn dweud y byddai annibyniaeth yn well i’r wlad na Brexit heb gytundeb.

Cafodd 1,018 o bobol eu holi rhwng Ebrill 18-24, a chafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar ail ddiwrnod cynhadledd wanwyn yr SNP yng Nghaeredin, lle mae disgwyl i Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, gyhoeddi ei bod hi’n “bryd i’r Alban fynd yn annibynnol”.

Mae disgwyl i’r SNP wthio am ail refferendwm cyn etholiadau Holyrood yn 2021.

Yn ôl pôl tebyg gan YouGov, 49% o Albanwyr sydd o blaid annibyniaeth ar hyn o bryd, o’i gymharu â 45% haf diwethaf.