Mae Theresa May yn wynebu galwadau i gynnal ymchwiliad llawn gan yr heddlu ar ôl i drafodaethau cyfrinachol gan y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (CDC) gael eu datgelu.

Mae Aelodau Seneddol wedi dweud bod datgelu’r trafodaethau cyfrinachol o’r cyfarfod ddydd Mawrth yn “syfrdanol” ac maen nhw wedi galw am gynnal ymchwiliad gan yr heddlu i ddod o hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol.

Daw’r galwadau yn dilyn adroddiad yn The Daily Telegraph oedd yn datgelu manylion am gyfarfod rhwng Llywodraeth Prydain a’r cwmni technoleg Huawei.

Roedd Downing Street wedi gwrthod dweud a oedd ymchwiliad ar y gweill.

Mae dau weinidog y Cabinet – yr Ysgrifennydd Amddiffyn Gavin Williamson a’r Ysgrifennydd Tramor Jeremy Hunt – wedi gwadu’n gyhoeddus mai nhw oedd yn gyfrifol.

Dywedodd y cyn-ysgrifennydd amddiffyn Syr Michael Fallon na fyddai ymchwiliad gan weision sifil yn Whitehall yn ddigonol a bod angen ymchwiliad llawn gan Scotland Yard.

Mae’r cyn-weinidog Andrew Mitchell hefyd wedi dweud y dylai Theresa May alw ar MI5 i gynnal ymchwiliad llawn.