Mae penaethiaid y Royal Bank of Scotland (RBS) yn rhybuddio rhag effaith Brexit wrth i ansicrwydd roi pwysau ar yr economi.

Yn siarad mewn cyfarfod blynyddol yng Nghaeredin, dywed Cadeirydd yr RBS, Howard Davies, fod pryderon yn ymwneud â Brexit yn effeithio ar ddatblygiad economaidd gwledydd Prydain.

Fe fydd hyn yn cael effaith ar berfformiad y banc hefyd, meddai.

Yn ôl Howard Davies, mae economi gwledydd Prydain wedi bod yn wydn iawn “ond mae’r diffyg eglurder ynghylch ein perthynas â’r UE yn y dyfodol yn cael effaith… a bydd hynny’n effeithio ar ein hincwm”.

Dyma yw rhybudd Brexit diweddaraf gan y banc ar ôl i werth ei gyfranddaliadau blymio ym mis Hydref y llynedd.