Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth actor Trainspotting 2, Bradley Welsh.

Cafodd yr actor 48 oed ei saethu yn farw wrth gerdded lawr grisiau i’w fflat yng Nghaeredin ar ddydd Mercher diwethaf (Ebrill 17).

Dywed yr heddlu heddiw (Ebrill 23) bod y dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’i farwolaeth ond eisoes wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.

Roedd partner a merch ifanc Bradley Welsh yn eu cartref ar Chester Street pan gafodd ei dargedu.

Yn ogystal ag ymddangos ar ffilm roedd yn ymwneud â phrosiectau elusennol yng Nghaeredin, gan gynnwys helpu pobol ifanc i gadw i ffwrdd o fywyd o droseddu trwy ei gampfa bocsio yn Holyrood.