Fe fydd cynlluniau arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i ymweld â gwledydd Prydain yn cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 23).

Y gred yw y bydd ymweliad swyddogol yn cael ei drefnu ar gyfer dechrau Mehefin, fyddai’n dilyn ymweliad gwaith wnaeth o haf y llynedd gyda’i wraig Melania Trump.

Mae’r ymweliad dadleuol yn debygol o ddenu protestiadau tebyg i’r rhai ym mis Gorffennaf 2018, ac mae disgwyl i lefelau diogelwch fod ar eu huchaf.