Cafodd cyfanswm o 36 o ffoaduriaid eu hachub o gychod yn Sianel Lloegr wrth iddyn nhw geisio croesi o Ffrainc heddiw.

Rhoddodd Gwylwyr y Glannau gymorth i’r Llu Ffiniau wrth iddyn nhw ddod a theithwyr mewn tri chwch i ddiogelwch oddi ar arfordir Sir Caint y bore ma.

Roedd y cwch cyntaf yn cynnwys 11 o ddynion o Iran ac Irac. Iraciaid oedd yn yr ail gwch hefyd – y tro yma 15 o ddynion, merched a phlant.

Iraniaid oedd yn y trydydd cwch gyda naw dyn ac un ddynes ar ei bwrdd.

Aethpwyd a nhw i Dover i gael eu holi.

Mae gan Lywodraeth Prydain ddealltwriaeth gyda gwledydd eraill sy’n golygu fod disgwyl i bobol wneud cais am loches yn y wlad y mae nhw wedi ei chyrraedd yn wreiddiol.

Mae nifer o geiswyr lloches eraill sy wedi cyrraedd Prydain eisoes wedi cael eu dychwelyd i wledydd eraill yn Ewrop.

↑ Top of page