Mae teulu gweithwraig cymorth o Fanceinion a saethwyd yn farw yn Nigeria wedi dweud fod ei dewrder “wedi mynd a hi i lefydd oedd eraill yn ofni.”

Saethwyd Faye Mooney gyda dinesydd o Nigeria mewn safle gwyliau yn Nigeria o’r enw Kajuru Castle ddydd Gwener, meddai mudiad dyngarol Mercy Corps yr oedd hi’n gweithio iddyn nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod Ms Mooney, 29, ymysg dwsin o dwristiaid oedd wedi teithio o Lagos. Cipiwyd tri o bobol eraill gan y saethwyr.

Dywedodd ei theulu wrth Y Guardian: “Roedd Faye yn ysbrydoliaeth i’w theulu, ffrindiau, myfyrwyr a chydweithwyr.

“Aeth ei dewrder a’i chred mewn cymdeithas well i lefydd yr oedd eraill eu  hofn.

“Rydym mor falch o phwy oedd hi ac o bob dim y cyflawnodd yn ystod ei bywyd byr. Fe fydda ni yn cofio amdani’n annwyl am byth.”

Roedd Ms Mooney yn gweithio fel arbenigwraig cysylltiadau Mercy Corps’ yn Nigeria ac wedi bod gyda nhw ers dwy flynedd.

Roedd hefyd wedi dysgu yn Irac a gweithio yn Kosovo i frwydro yn erbyn masnachu mewn pobol.