Bydd y Deyrnas Unedig yn mynd ar ei hôl hi yn y byd oherwydd amharodrwydd i ddysgu ieithoedd tramor, yn ôl un prifathro blaenllaw.

Yn ôl Dr Anthony Seldon, mae “Prydain Fawr yn brysur droi’n Brydain fach,” oherwydd diffyg gallu ieithyddol.

Daw ei sylwadau ddiwrnodau’n unig wedi i’r Gweinidog Addysg Michael Gove ymosod ar y “balchder” sydd gan rai o fethu a siarad iaith dramor, gan ddweud y dylai ieithoedd modern gael eu dysgu i blant o bump oed ymlaen.

Mewn araith i gynhadledd y Schools Network heddiw, bydd Anthony Seldon, sy’n bennaeth ar ysgol breifat Coleg Wellington, yn dweud fod Prydain yn “wynebu creisis mewn ieithoedd modern, ac ry’n ni dan fygythiad o fynd yn hynnod ynysig a chael ein torri i ffwrdd oddi wrth gwledydd tramor”.

“Mae ein record wrth ddysgu ieithoedd yn unigryw o wael yn y byd datblygiedig,” meddai. “Ni allwn ni gymryd yn ganiataol fod gweddill y byd yn mynd i ddysgu Saesneg er mwyn darparu ar ein cyfer ni. Mae hyn yn broblem i gymdeithas gyfan, nid yn unig i ysgolion.”

Mae’r prif athro yn dweud y dylai ysgolion nawr fod yn dysgu ieithoedd fel Mandarin, Arabeg ac Urdu i blant, er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol gwledydd fel China, India a’r Dwyrain Canol.

Llai yn astudio

Mae’r canlyniadau TGAU diweddaraf yn dangos gostyniad mawr yn y nifer o fyfyrwyr sy’n astudio ieithoedd tramor.

Ffrangeg yw’r pwnc â’r gostyngiad mwyaf yn y nifer o blant sy’n ei astudio, gyda’r nifer i lawr 13.2% ers y llynedd, a lawr 28.8% dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Mae’r nifer sy’n astudio Almaeneg wedi gostwng 13.2% ers y llynedd, a’r nifer sy’n astudio Sbaeneg wedi disgyn 2.5% ers 2010.

‘Nid Prydain sy’n rheoli’r byd’

Yn ôl Dr Seldon, mae angen cynyddu’r nifer o ieithoedd modern sy’n bosib eu hastudio, gan drochi disgyblion yn y ieithoedd hynny tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, a chael y cyfle i weithio gyda busnesau er mwyn dangos i blant sut y mae ieithoedd tramor yn gynyddol bwysig yn y byd masnachol.

Mae pennaeth ysgol breifat arall wedi ategu’r sylwadau hyn, gan ddweud wrth Cynhadledd Flynyddol y Prifathrawon yn ddiwethar fod angen i ddisgyblion ddysgu ieithoedd newydd yn gynt yn eu haddysg.

Yn ôl Dr John Newton, pennaeth ysgol Taunton, “Saesneg oedd y brif iaith pan oeddwn i’n tyfu fyny. Mandarin yw’r brif iaith nawr.

“Mae ein plant ni wedi tyfu fyny â’r syniad mae Prydain sy’n rheoli’r byd. Am gamgymeriad,” meddai.