Mae Theresa May a Jeremy Corbyn yn canolbwyntio ar ddioddefaint ledled y byd yn eu negeseuon ar Sul y Pasg.

Tra bod Theresa May yn rhoi sylw i Gristnogion sy’n cael eu herlid oherwydd eu ffydd, mae Jeremy Corbyn yn tynnu sylw at ddioddefaint ffoaduriaid ac yn galw ar Lywodraeth Prydain i wneud mwy i’w helpu.

Dywed Theresa May fod “rhaid i ni sefyll i fyny dros hawl pawb, waeth bynnag am eu crefydd” i ddilyn yr hyn maen nhw’n ei gredu.

Mae hi’n dweud bod “perygl anferth” yn wynebu Cristnogion ar draws y bydd sydd am addoli.

“Fe fu ymosodiadau ar eglwysi, Cristnogion wedi’u llofruddio, teuluoedd wedi’u gorfodi i ffoi o’u cartrefi,” meddai.

“Dyna pam fod y Llywodraeth wedi lansio adolygiad byd-eang o erlid Cristnogion.

“Rhaid i ni sefyll i fyny dros hawl pawb, waeth bynnag am eu crefydd, i arfer eu ffydd mewn heddwch.”

Cymharu’r Iesu â ffoaduriaid

Mae Jeremy Corbyn, yn y cyfamser, yn cymharu dioddefaint yr Iesu â’r heriau mae ffoaduriaid yn eu hwynebu yn yr oes sydd ohoni.

Mae’n cyhuddo Llywodraeth Prydain o fethu â derbyn plant sy’n ffoaduriaid, ac yn lladd ar Sajid Javid, yr Ysgrifennydd Cartref, am fethu â mynd i’r afael â sefyllfa’r llongau sy’n croesi i wledydd Prydain o hyd wrth i ffoaduriaid geisio bywyd gwell.

Mae’n dweud bod yr Iesu “yn ffoadur yr oedd ei rieni wedi’u gorfodi i ffoi o’u cartref oherwydd ymgyrch o fraw gan unben, y Brenin Herod”.

“Aeth yr Iesu yn ei flaen i wybod beth yw bod yn estron, cael eich gwrthod a’ch arteithio.

“Teulu a gafodd ei orfodi i adael eu gwlad rhag ofn iddyn nhw gael eu herlid.

“Yn drist iawn, mae hyn mor gyfarwydd i ni heddiw.

“Mae yna 68 miliwn o ffoaduriaid ar draws y byd, mwy nag erioed sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi rhag cael eu herlid, rhyfel a thlodi.”

Sefyllfa’r ffoaduriaid yn ‘brawf moesol’

Mae’n dweud bod helynt y ffoaduriaid yn “brawf moesol” ynghylch sut i drin pobol.

“Dysgodd yr Iesu i ni barchu ffoaduriaid. Fe ddywedodd yntau wrthym am groesawu estroniaid.

“Ac mae’r Beibl yn dweud bod rhaid trin yr estron yn eich plith fel brodor.

“Ym Mhrydain, mae gennym draddodiad balch o gynnig lloches diogel i’r rhai mewn angen.

“Ond mae’r Llywodraeth hon yn gwrthod ateb eu dyletswydd gyfreithiol i ffoaduriaid sy’n blant yn Ewrop, yn ôl gofynion Gwelliant Dubs.”