Mae rhagor na 700 o bobol wedi eu harestio yn ystod protestiadau i dynnu sylw’r byd at beryglon newid yn yr hinsawdd.

Daeth protestwyr i bedwar safle yn Llundain – Pont Waterloo, Marble Arch, Oxford Circus a Sgwar y Senedd – i ddangos eu hanfodlonrwydd dros benwythnos y Pasg.

Bydd cefnogwyr Extinction Rebellion (XR) yn cynnal gwylnos dan olau canhwyllau heno gyda gwledd Dydd Sul y Pasg yfory.

Disgwylir y bydd Greta Thunberg, y ferch 16-mlwydd-oed o Sweden, a ddechreuodd y streiciau ysgol yn erbyn newidiadau hinsawdd yn annerch y protestwyr yfory.

Mae hi i fod i gwrdd gyda gwleidyddion yr wythnos nesaf a hynny wedi iddi eisoes gyfarfod a’r Pab Francis ac annerch Senedd Ewrop.

Dywedodd yr heddlu fod rhagor na 715 o bobol eisoes wedi cael eu harestio yn dilyn chwe niwrnod o brotestiadau Sites at Oxford Circus, Marble Arch and Parliament Square a hynny wedi i’r heddlu gymeryd cwch pinc oedd yn bwynt gwyledol i’r mudiad.d  Mae 28 ohonynt wedi cael eu cyhuddo o wahanol droseddau.

Ddoe, gwelwyd fideo o swyddogion yr heddlu yn llusgo protestwyt ar hyd y llawr gerfydd eu brechiau wedi i’r Ysgrifennydd Cartref Sajid Javid eu hannog i ddefnyddio “holl rym y gyfraith.”

Mae’r lluniau yn dangos dynes yn cael ei llusgo ar hyd y ffordd yn agos i Oxford Circus gan swyddog yr heddlu sy’ wedyn yn baglu ac yn disgyn gan golli ei het.

Gwelir swyddog arall yn llusgo dyn arall wrth ei ochor.

Mae’r mudiad eisiau i Lywodraeth San Steffan ddatgan argyfwng yn yr hinsawdd a gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i fod yn sero erbyn 2025.