HIV
Byddai dwy ran o dair o bobol yn ystyried defnyddio teclynnau profion cartref HIV, petaent nhw ar gael yn gyfreithlon ac wedi eu rheoleiddio’n gywir, yn ôl arolwg diweddar.

Daw’r pôl, gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, wrth i’r elusen annog y llywodraeth i gyfreithloni a rheoleiddio profion cartref, mewn ymgais i dorri nifer yr achosion o HIV yn y Deyrnas Unedig sy’n dal heb gael diagnosis.

Mae gwerthu teclynnau er mwyn profi am HIV yn y cartref yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Gall y teclynnau yma gael eu prynu dros y rhyngrwyd, ond mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn dweud nad ydyn nhw wedi eu rheoleiddio, ac felly o safon isel, a does dim cyngor digonol ynglŷn â ble i anfon dioddefwyr am gefnogaeth os oes diagnosis o HIV.

O’r 490 o bobol a holwyd sydd heb gael diagnosis HIV-positif, dywedodd 63% y bydden nhw’n ystyried defnyddio’r teclynnau pe baen nhw’n gyfreithlon, ac roedd 51% yn dweud y byddwn nhw’n profi’n amlach pe bai profion cartref ar gael.

Ymhlith dynion hoyw, un o’r grwpiau sydd gyda’r risg uchaf o gael HIV yn y Deyrnas Unedig, roedd 60% yn meddwl y byddai cyfreithloni profion cartref yn gwneud iddyn nhw brofi am HIV yn fwy aml.

Yn 2009, roedd amcangyfrif bod 22,000 o bobol yn byw gyda HIV ym Mhrydain heb wybod hynny.

Yn ôl Lisa Power, cyfarwyddwr polisi’r elusen, mae “chwarter o’r rheiny sydd â HIV ym Mhrydain heb gael diagnosis, ac felly’n fwy tebygol o basio’r firws ymlaen”.

“Un ffordd o ostwng y canran yna yw trwy gynyddu’r cyfleoedd i bobol i brofi eu hunain.”

Mae llefarydd ar ran adran iechyd y Deyrnas Unedig wedi dweud eu bod nhw ar hyn o bryd yn ystyried y teclynnau profi HIV, ac a ddylid ail-ystyried y gwaharddiad presennol.

“Y peth sylfaenol i’w ystyried cyn newid y gyfraith fyddai pa mor rhwydd yw hi i gael gafael ar brofion safonol er mwyn eu defnyddio adref. Rydyn ni’n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ac eraill wrth gynnal ein hadolygiad i hynny.

“Mae profion HIV eisoes ar gael o nifer o glinigau iechyd agored y Gwasanaeth Iechyd. Ein cyngor ni yw, os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod wedi dal HIV, cysylltwch â’ch gwasanaeth iechyd neu eich meddyg teulu am brawf.”