Mae dau ddyn yn eu harddegau wedi eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth y gohebydd Lyra McKee yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r dynion, sy’n 18 ac 19 oed, yn cael eu cadw o dan y drefn derfysgaeth ac yn cael eu holi mewn gorsaf heddlu yn Belffast.

Cafodd nifer fawr o deyrngedau eu rhoi i’r newyddiadurwraig 29 oed gan gynnwys ei phartner, Sara Canning, a ddywedodd fod “potensial rhyfeddol” Ms McKee wedi ei “ddiffodd gan yr un weithred farbaraidd hon.”

Mae ditectifs fu’n chwilio am y saethwr wedi rhyddau lluniau cylch-cyfyng o’r digwyddiad yn y gobaith y gall y cyhoedd fod o gymorth i ddod o hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol.

Cafodd y newyddiadurwraig o Felffast, oedd hefyd yn awdur, ei saethu yn ei phen gan rywrai y mae’r heddlu yn amau eu bod yn weriniaethwyr gyda chysylltiadau a’r New IRA mewn terfysg ar stad dai Creggan yn Derry nos Iau.