Bu farw dwy ddynes wedi iddyn nhw fynd i drafferthion wrth nofio yn y môr yn yr Alban.

Fe ddisgrifiodd yr heddlu yn Aberdeen farwolaeth y ddwy – oedd yn 36 a 22 mlwydd oed – fel “damwain drasig.”

Fe alwodd aelod o’r cyhoedd am gymorth brys ar ôl gweld y ddwy mewn trafferthion tua 12.40yb fore heddiw.

Cafodd y ddwy dramorwraig eu hachub gan gwch ac aethpwyd a nhw i’r ysbyty yn Aberdeen ble fuo nhw farw.

Mae’r heddlu wedi lansio ymchwiliad ond nid ydynt yn ystyried fod y ddamwain yn un amheus.

Deallir fod y ddwy wedi bwriadu mynd i nofio pan aetho nhw i drafferthion.