Mae’r awdurdodau yn Lloegr yn amau fod cyfres o danau mawr ar fynydd Bodmin wedi cael eu cynnau’n fwriadol.

Fe fu ugeiniau o ymladdwyr tân yn gweithio trwy’r nos neithiwr (nos Fercher. Ebrill 17) i ddiffodd y fflamau, gyda’r rheiny’n ymledu hyd at ddwy filltir dros y tir mynydd yng Nghernyw.

Roedd teithwyr ar ffordd yr A30 yn dweud fod y tân wedi dod yn “agos iawn” at y briffordd.

Fe fu cyfanswm o tua 70 o ymladdwyr yn gweithio am saith awr i gael y tân dan reolaeth, cyn dod â’r cyfan dan reolaeth erbyn tua 7.30yb fore Iau.

Mae heddlu lleol yn gofyn i’r cyhoedd fod ar eu gwyliadwraeth rhag pobol sy’n ymddwyn yn amheus.