Mae gwraig gerbron llys yn yr Alban wedi’i chyhuddo o fod â saith gwaith y lefel o alcohol cyfreithiol yn ei gwaeth.

Fe gafodd y ddynes 57 oed ei stopio gan Heddlu’r Alban ger Fyvie in Swydd Aberdeen neithiwr (nos Fercher, Ebrill 17).

Fe gafodd plismyn eu galw gan aelod o’r cyhoedd a oedd yn pryderu am gerbyd ar y ffordd rhwng New Deer a Fyvie.

Mae disgwyl i’r wraig ymddangos gerbron Llys Siryf Peterhead mewn cysylltiad ag yfed a gyrru, ynghyd â throseddau gyrru eraill.

Y lefel cyfreithiol o alcohol yn y gwaed ar gyfer gyrwyr yn yr Alban yw 50mg ym mhob 100ml o waed, neu 22mg ym mhob 100ml o anadl.