Mae dyn a dynes 23 oed o wledydd Prydain wedi cael eu lladd mewn damwain cerbyd ar ynys Santorini yng Ngroeg, meddai awdurdodau tan y wlad.

Dywed llefarydd ar ran gwasanaeth tân Groeg eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad ar fynydd Profitis Ilias am 2.27yp dydd Sul (Ebrill 14), a bod wyth o ymladdwyr a dau gar wedi eu hanfon yno.

Y gred ydi fod y ddau wedi disgyn 200m i mewn i geunant wrth ddreifio ar y mynydd.

Copa’r Profitis Ilias yw’r pwynt uchaf ar ynys Santorini, sydd i’r de ddwyrain o brifddinas Groeg, Athen.