Bydd triawd a gafodd eu harestio yn sgil protestiadau ‘Extinction Rebellion’ yn ymddangos gerbron llys yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau, Ebrill 18).

Mae’r protestiadau yn cael eu cynnal yn Llundain yr wythnos hon, a’r nod o dynnu sylw at y bygythiad i’r byd o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd.

Cathy Eastburn, 51, Mark Ovland, 35, a Luke Watson, 29, yw’r tri a fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Highbury Corner.

Maen nhw’n cael eu cyhuddo o rwystro trenau yng ngorsaf Canary Warf fore Mercher (Ebrill 17).

O’r protestwyr sydd wedi cael eu cyhuddo o dorcyfraith, y rhain fydd y cyntaf i ymddangos gerbron llys.

Y protestiadau

Heddiw fydd pedwerydd diwrnod y protestiadau, a hyd yma mae 400 o bobol wedi cael eu harestio.

Mae rhai ymgyrchwyr wedi bod yn gludo’u hunain i drenau, a gwnaeth un grŵp lynu eu hunain i ffens gardd Jeremy Corbyn, Arweinydd y Blaid Lafur, â chadwyni.

Bydd presenoldeb swyddogion yn uwch na’r arfer ar draws rhwydwaith drenau Llundain, yn ôl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.