Mae ymchwiliad i ddamwain hofrennydd yn Glasgow a laddodd ddeg o bobol yn 2013 wedi beirniadu diffyg tystiolaeth ynghylch yr hyn ddigwyddodd.

Mae’r ymchwilydd Peter Wivell yn dweud bod y sefyllfa’n “un rhwystredig i bawb”, ac nad oes modd ateb rhai cwestiynau o hyd.

Doedd gan yr hofrennydd ddim cofnodwr hediadau pan darodd do bar Clutha yn y ddinas ar Dachwedd 29, 2013.

Cafodd y peilot, dau aelod o’i griw a saith cwsmer eu lladd.

Mae’r ymchwilydd wedi ategu’r alwad am osod recordiwr mewn mwy o hofrenyddion er mwyn osgoi ailadrodd y sefyllfa yn y dyfodol.

Hofrenyddion y dyfodol

Mae amheuon ar hyn o bryd a fydd cofnodwr hediadau ar gael yn yr hofrennydd newydd, A380 a deithiodd o Glasgow am y tro cyntaf neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 16).

Mae lle i gredu y bydd cofnodwr hediadau a data ar gael, ond does dim sicrwydd ynghylch cofnodwr gweledol.

Yn ôl yr ymchwiliad, fe fu gwrthwynebiad mawr i’r cofnodwr gweledol yn y gorffennol.

Mae’r ymchwiliad yn parhau