Mae The Brexit Party, plaid newydd cyn arweinydd UKIP, Nigel Farage, yn arwain yn y polau piniwn cyn etholiadau Senedd Ewrop, yn ôl arolwg newydd gan YouGov.

Mae’r arolwg yn rhoi Brexit Party ar 27%, ar y blaen i Lafur sydd ar 22%, a’r Ceidwadwyr ar 15%.

Daw’r canlyniadau ar sail tebygolrwydd pleidleisio – ac mae’n dangos cynnydd mewn cefnogaeth i’r blaid newydd ar ôl i arolwg YouGov i bapur The Times eu rhoi nhw ar 15% yr wythnos ddiwethaf.

Fe all y cyhoeddusrwydd y mae’r Brexit Party wedi’i dderbyn y dilyn lansiad ei hymgyrch etholiadol, pan gyhoeddodd Annunziata Rees-Mogg, sef chwaer y Tori blaenllaw Jacob Rees-Mogg, ei bod hi’n ymgeisio.

Bydd ofn ymysg gweinidogion y Ceidwadwyr o golli ar Fai 23 yn siŵr o dfyfnhau yn dilyn cyhoeddi’r pôl hwn.

Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, yn dweud ei bod hi’n benderfynol o gael cytundeb Brexit wedi ei basio cyn Mai 23.