Mae arbenigwyr yn rhybuddio bod hyd yn oed bwyta ham, bacwn a chig coch yn gymhedrol, yn gallu achosi canser y coluddyn.

Yn ôl astudiaeth gan Cancer Research UK, mae pobol sydd yn dilyn argymhellion y Gwasanaeth Iechyd ar gig coch a chig wedi’i phrosesu yn dal i gynyddu’r risg o ganser y coluddyn i gymharu â phobol sydd yn bwyta ychydig.

Er bod cig yn ffynhonnell dda o brotîn, fitaminau a mwynau, dylai pobol dorri lawr ar faint o gig coch neu gig wedi ei brosesu maen nhw’n bwyta ia tua 70g y dydd, meddai’r astudiaeth.

Dywed World Cancer Research Fund hefyd bod tystiolaeth gref fod bwyta cigoedd wedi eu prosesu yn achosi canser y coluddyn, a bod cig coch yn cynyddu’r risg.

Yr astudiaeth

Mae’r astudiaeth newydd yn yr International Journal of Epidemiology wedi ei seilio ar ddata gan 475,581 o bobol rhwng 40 a 69 ac wedi eu dilyn nhw am gyfartaledd o 5.7 o flynyddoedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd 2,609 wedi datblygu canser y coluddyn.

Yn ôl yr astudiaeth mae pobol sydd yn cael cyfartaledd o 76g o gig coch a chig wedi’i brosesu’r dydd, a risg 20% yn uwch o gael canser y coluddyn i gymharu â rheiny sydd yn bwyta 21h y dydd.

O ran cig coch yn unig, roedd y risg 15% yn uwch i bobol a oedd yn bwyta 54g y dydd (ar gyfartaledd o gymharu â’r rhai a gafodd 8g y dydd.

O ran cig wedi’i brosesu yn unig, roedd y risg 19% yn uwch ar gyfer y rhai a gafodd 29g y dydd ar gyfartaledd o’i gymharu â’r rhai a gafodd 5g y dydd.