Mae’r nifer uchaf erioed – 32.7 miliwn o bobol – mewn gwaith yng ngwledydd Prydain, ar ôl i’r nifer sydd mewn swyddi llawn amser a hunangyflogedig gynyddu’n sylweddol dros flwyddyn.

Mae ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangso fod y nifer sydd mewn gwaith wedi cynyddu o 179,000 mewn tri mis i fis Chwefror i 32.7 miliwn, y cyfanswm chaf ers 1971 pan ddechreuwyd cadw cofnodion.

O ran swyddi llawn amser a hunangyflogedig, mae’r ffigwr wedi codi 457,000 dros y flwyddyn ddiwethaf, tra mae’r nifer sydd mewn swyddi rhan amser wedi disgyn 15,000, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.

Mae diweithdra wedi disgyn 27,000 i 1.34 miliwn, sy’n cadw tuedd wnaeth ddechrau yn 2012 i fynd.

Mae’n golygu bod cyfradd diweithdra gwledydd Prydain nawr yn 3.9% – sy’n is nag unrhyw adeg ers diwedd 1975.

Ar ben hynny, mae cyfartaledd cyflog wedi cynyddu o 3.5% mewn blwyddyn, sy’n parhau i orbwyso chwyddiant.