Mae rhagor na chant o bobol wedi eu harestio yn dilyn protestiadau yn ninas Llundain ynglŷn â newid yn yr hinsawdd.

Bu ymgyrchwyr yn rhwystro rhai o strydoedd prysuraf Llundain ddoe (dydd Llun, Ebrill 15) wrth iddyn nhw alw ar Lywodraeth Prydain i weithredu dros yr amgylchedd.

Roedd yr heddlu wedi ceisio cyfyngu’r protestiadau i safle yn Marble Arch, ond roedd grwpiau yn dal i ymgasglu o gwmpas Waterloo Bridge a Parliament Square tan oriau mân y bore.

Yn ôl Scotland Yard, mae cyfanswm o 113 o bobol wedi eu harestio mewn cysylltiad â’r protestiadau.

Cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw eu dwyn i’r ddalfa am fethu ag aros yn Marble Arch, medden nhw.

Mae pum person wedyn, sef tri dyn ac un ddynes, yn cael eu hamau o achosi difrod troseddol ar ôl i brotestwyr fandaleiddio pencadlys cwmni Shell.

Dywedodd y grŵp Extinction Rebellion eu bod nhw’n anelu at achosi mwy na £6,000 mewn difrod er mwyn ymddangos gerbron Llys y Goron.

Maen nhw wedi canmol y rhai a gafodd eu harestio, gan eu disgrifio’n “wrthryfelwyr dewr”.