Mae angen i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, ddefnyddio’r estyniad i Brexit i baratoi at gamau nesaf y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd er mwyn osgoi camgymeriadau cynt.

Dyma yw barn adroddiad Sefydliad y Llywodraeth sy’n honni y bydd trafodaethau ar gytundeb masnach y dyfodol gyda Brwsel yn “fwy cymhleth” na’r trafodaethau gadael.

Yn yr adroddiad beirniadol iawn o’r ffordd mae’r Llywodraeth wedi delio gyda phroses Brexit hyd yn hyn, mae bys yn cael ei bwyntio ar sut mae Theresa May wedi creu rhaniad “anghynaladwy” mewn cyfrifoldebau rhwng Downing Street a’r Adran ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd trafodaethau ar gam cyntaf Brexit hefyd yn cael eu “trechu gan yr anhawster o gael cytundeb Cabinet” ar y math o berthynas y mae gwledydd Prydain eisiau gyda’r Undeb Ewropeaidd. 

Yn ôl Sefydliad y Llywodraeth, bydd rhaid i i’r Llywodraeth ddefnyddio estyniad Brexit i sefydlu strategaeth glir ar gyfer bargen masnach yn y dyfodol ynghyd a sicrhau cymeradwyaeth Aelodau Seneddol ar gyfer y cytundeb.

Cyn i’r trafodaethau ddechrau, maen nhw’n dweud – fe ddylai’r Llywodraeth gyhoeddi mandad clir ar gyfer perthynas “uchelgeisiol” ond yn seiliedig ar yr “hyn sy’n agored i drafodaeth” mewn gwirionedd.