Mae dau o bob pump athro yng ngwledydd Prydain yn dweud na fyddan nhw’n gweithio ym myd addysg erbyn 2024, yn ôl canlyniad arolwg.

Y prif reswm yw llwyth gwaith i 62% o’r athrawon hynny, a’r gyfundrefn atebolrwydd i 40% o’r athrawon sydd wedi cael llond bol.

Dywed arolwg o 8,674 o aelodau o’r Undeb Addysg Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon bod dros chwarter – 26% sydd â rhwng dwy a pum mlynedd o brofiad – yn bwriadu gadael o fewn pum mlynedd. 

I rheiny gyda llai na dwy flynedd o brofiad, roedd y gyfradd yn disgyn i 15%. 

Wrth i 40% ddweud eu bod yn mynd i adael y byd addysg erbyn 2024, roedd 18% yn disgwyl mynd o fewn dwy flynedd.

Yn ôl 56% hefyd, mae cydbwysedd gwaith a bywyd wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf, tra mae 31% yn dweud ei fod wedi aros yr un peth a 12% yn dweud ei fod wedi gwella.