Mae cyn-filwr Prydeinig yn mynd o flaen ei well am lofruddio bachgen 15 oed a gafodd ei saethu’n farw yn ystid Helyntion Gogledd Iwerddon yn 1972.

Yn ôl Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, mae ‘Milwr B’ yn euog o ladd Daniel Hegarty a gafodd ei saethu gan aelod o batrôl y fyddin yn ardal Creggan yn nhref Derry ar Orffennaf 31, 1972 – yn ystod beth oedd yn cael ei alw’n Ymgyrch Motorman.

Aeth dau fwled o wn Milwr B i ben Daniel Hegarty.

Bydd y cyn-filwr hefyd yn cael ei gyhuddo o anafu bwriadol ar ôl i gefnder Daniel Hegarty, Christopher Hegarty, a oedd yn 17 ar y pryd, gael ei saethu a’i anafu yn ystod y digwyddiad.

Fe lwyddodd y teulu Hegarty i ennill hawl i erlyn y milwr ar ôl i’r Uchel Lys ddiddymu penderfyniad y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus i beidio cymryd camau yn ei erbyn.