Mae un person wedi marw, a 22 arall wedi eu hanafu, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a dau gar ar Ynys Wyth.

Mae 19 o’r rheiny a anafwyd wedi cael eu cludo i’r ysbyty, gan gynnwys dau mewn hofrennydd, yn dilyn y ddamwain ger Newport ar yr ynys prynhawn ddydd Sul (Ebrill 14).

Yn ôl Heddlu Hampshire, roedd tri person arall yn teithio mewn Fiat Bravo coch, gan gynnwys dynes a fu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Bu’n rhaid i yrrwr y bws, sef dyn yn ei 60au, gael ei dorri’n rhydd o’r cerbyd, ac mae lle i gredu ei fod wedi ei anafu’n ddifrifol.

Bu’r digwyddiad am tua 12.45yp ar gyffordd ger Betty Haunt Lane.