Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, yn dweud y byddai rhoi mynediad i gymorth cyfreithiol i Shamima Begum yn ei wneud yn “anghyfforddus iawn”.

Roedd Shamima Begun, wnaeth adael gwledydd Prydain yn 15 i briodi ymladdwr y ISIS, “yn gwybod y dewisiadau roedd hi’n gwneud,” yn ôl Jeremy Hunt.

Er hynny, mae’n adnabod bod gwledydd Prydain yn wlad sy’n credu y dylai pobol gael mynediad i gynrychiolaeth gyfreithiol.

“Mae’n gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus iawn ar ôl iddi wneud cyfres o ddewisiadau roedd hi’n gwybod y roedd hi’n eu gwneud,” meddai Jeremy Hunt ar raglen Today, BBC 4.

“Fodd bynnag, rydym yn wlad sy’n credu y dylai pobl gael mynediad at adnoddau’r wladwriaeth os ydynt am herio’r penderfyniadau y mae’r wladwriaeth wedi’u gwneud amdanynt.”

Gobaith Shamima Begum nawr yw cael cymorth cyfreithiol i herio penderfyniad i ddiddymu ei dinasyddiaeth yng ngwledydd Prydain. .

Mae cyn uwch bennaeth yn Heddlu’r Met, Dal Babu, sy’n ffrind i deulu Shamima Begum, yn ei chefnogi hi.

“Roedd hi’n ferch ifanc. Roedd hi’n 15 oed ar y pryd. Roedd yr heddlu’n ymwybodol o hyn, roedd yr heddlu gwrth brawychiaeth yn ymwybodol o hyn, roedd yr ysgol yn ymwybodol o hyn, ac roedd gweithwyr cymdeithasol Cyngor Tower Hamlets yn ymwybodol o hyn,” meddai Dal Babu.