Mae un o aelodau UKIP yn Senedd Ewrop wedi gadael y blaid er mwyn ymuno â’r Blaid Brexit newydd.

Yn ôl Jill Seymour, sy’n cynrychioli gorllewin canolbarth Lloegr, mae UKIP wedi “symud at y dde eithafol” o dan arweiniad Gerard Batten.

“Dydw i ddim yn troi fy nghefn o egwyddorion sylfaenol y blaid,” meddai. “Ond mae cyfeiriad presennol y blaid yn golygu ei fod wedi troi ei chefn arna i, a’i haelodau craidd.”

“Fe fydda i bellach yn eistedd fel Aelodau Seneddol Ewropeaidd ar ran y Blaid Brexit am weddill y tymor seneddol.

Ychwanega Jill Seymor, sy’n gyn-lefarydd UKIP ar drafnidiaeth, ei bod hi’n credu y byddai Gerard Batten yn “allweddol yn niwedd” UKIP.

Yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddodd chwaer Jacob Rees-Mogg – Annunziata – ei bod hi wedi gadael y Blaid Geidwadol er mwyn ymuno a’r Blaid Brexit, a gafodd ei sefydlu gan gyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage.

Fe fydd Annunziata Rees-Mogg yn sefyll ar ran y blaid yn yr etholiadau Ewropeaidd ym mis Mai.