Mae Julian Assange yn cael ei gyhuddo gan Arlywydd Ecwador o ddefnyddio llysgenhadaeth y wlad yn Llundain fel “canolfan ar gyfer ysbïo”.

Mae Lenin Moreno hefyd yn dweud na chafodd unrhyw wlad arall ddylanwad ar y penderfyniad i ddod â lloches sylfaenydd WikiLeaks i ben.

Doedd Julian Assange ddim wedi gadael y safle ers bron i saith mlynedd, oherwydd ei fod yn wynebu cael ei arestio am osgoi’r awdurdodau.

Cafodd y gŵr, 47, ei arestio gan yr Heddlu Metropolitan ddiwedd yr wythnos ddiwethaf (dydd Iau, Ebrill 11), ac mae bellach yn wynebu carchar am osgoi mechnïaeth, yn ogystal â’r posibilrwydd o gael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau.

“Fedrwn ni ddim gadael i’n tŷ, y tŷ a agorodd ei ddrysau, i ddod yn ganolfan ar gyfer ysbïo,” meddai’r Arlywydd Lenin Moreno wrth bapur The Guardian.

“Mae’r gweithgaredd yn mynd yn groes i ofynion y lloches. Dyw ein penderfyniad ddim yn un mympwyol, ond yn un sy’n seiliedig ar gyfraith ryngwladol.”

Fe gyfeiriodd yr Arlywydd hefyd at hylendid sâl Julian Assange, gan ategu sylwadau a wnaed gan weinidog cartref Ecwador, Maria Paula Romo, a ddywedodd fod y llocheswr wedi “gosod cachu ar y waliau”.