Mae dyn, 46, wedi ei gyhuddo o lwytho fideo ar y we sy’n cynnwys delw o Dŵr Grenfell yn cael ei losgi.

Mae Paul Bussetti, o South Norwood, de-ddwyrain Llundain, wedi ei gyhuddo o ddau achos o lwytho, neu achosi i lwytho deunydd sarhaus drwy gyfrwng rhwydwaith cyfathrebu cyhoeddus.

Yn ôl yr heddlu, fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster ar Ebrill 30.

Cafodd chwe dyn eu harestio, ac un arall ei holi ynghylch y fideo, sydd wedi achosi ffrae ers cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd y llynedd.

Bu farw 72 o bobol o ganlyniad i’r tân yn y bloc o fflatiau yn Llundain ar Fehefin 14, 2017.