Bydd y BBC yn cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu torri hyd at 2,000 o swyddi wrth iddyn nhw anelu at wneud arbedion o tua 20%.

Fe fydd y gorfforaeth yn cynnal cyfarfodydd â staff ar draws y Deyrnas Unedig heddiw wrth ddatgelu manylion eu cynllun ‘Rhoi Safon yn Gyntaf’.

Fe fydd y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Mark Thompson, a chadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, yr Arglwydd Patten, yn siarad â staff am tuag awr o 10am ymlaen.

Bu’n rhaid i’r BBC wneud toriadau mawr ar ôl rhewi’r drwydded deledu ar £145.50 a chytuno i gymryd cyfrifoldeb dros Wasanaeth y Byd ac S4C.

Mae yna bryder y gallai rhai o wasanaethau’r Gymraeg a Chymreig y BBC fod yn y fantol.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Bethan Jenkins, y byddai “unrhyw doriad sylweddol yn narpariaeth BBC Cymru yn ergyd drom i unrhyw ymgais i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r strwythurau cenedlaethol a’n sefydliadau democrataidd”.

Mewn neges fewnol i’r staff yn gynharach yr wythnos yma, dywedodd Mark Thompson ei fod wedi derbyn nifer o sylwadau dros y naw mis diwethaf yn ymwneud â’r broses o dorri nôl.

“Rydych chi wedi cynnig syniadau newydd, ein hannog i newid neu gefnu ar rai o’n syniadau cynnar ni, ac wedi bod o gymorth i ni wrth ddatblygu’r cynigion terfynol sydd wedi eu trafod ag Ymddiriedolaeth y BBC dros yr wythnosau diwethaf,” meddai.

Mae disgwyl y bydd nifer y rhaglenni gwreddiol ar BBC2 yn gostwng, yn ogystal â thoriadau i wasanaethau radio a sioeau adloniant ar nos Sadwrn.