Mae pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo o symud mewnfudwyr o Fietnam yn anghyfreithlon.

Mae lle i gredu bod 29 o bobol – a phant yn eu plith – wedi cael eu canfod mewn fan ar yr M5 yn Collumpton yn Nyfnaint.

Roedd tystion wedi gweld y bobol yn mynd i mewn i fan ar ôl cyrraedd y lan ar gwch.

Mae Frank Walling (72), Jon Ransom (63), Keith Royston Plummer (62) a Glen Martin Bennett (55) wedi’u cyhuddo o symud pobol yn anghyfreithlon ac o hwyluso mewnfudo anghyfreithlon.

Mae’r pedwar wedi’u cadw yn y ddalfa, a byddan nhw’n mynd gerbron ynadon yng Nghernyw yfory (dydd Llun, Ebrill 15).