Mae Gerard Batten yn dweud bod negeseuon ymgeisydd UKIP at Jess Phillips, yr aelod seneddol Llafur, am dreisio yn “ddychanol”.

Mae hefyd wedi amddiffyn ei sylwadau bod Islam yn “gwlt marwolaeth”.

“Fyddwn i ddim hyd yn oed yn dy dreisio di,” meddai Carl Benjamin, ymgeisydd Senedd Ewrop, mewn neges at yr aelod seneddol tros Birmingham Yardley.

“Dw i’n credu mai dychan oedd e,” meddai Gerard Batten am y neges ar raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Dw i ddim yn gwybod union gyd-destun hynny a dw i’n sicr ddim yn cymeradwyo sylwadau o’r fath, ond dydy e ddim yn berson drwg fel y mae’n cael ei bortreadu.

“Lladmerydd rhyddid barn yw e.

“Roedd cyd-destun ei sylw’n ddychan yn erbyn y bobol yr oedd e’n ei ddweud e amdanyn nhw.

“Doedd e ddim yn gwneud gosodiad llythrennol.”

Islam

Wrth ategu ei sylwadau am Islam, dywedodd Gerard Batten nad yw e’n “hoffi’r ideoleg, y dehongliad llythrennol o Islam”.

“Dw i’n nabod llawer o bobol yn y wlad hon sy’n dehongli Islam yn llythrennol.

“Dw i’n credu mai dyna’r peth sy’n peri gofid.”