Mae dynes 29 oed wedi cael ei harestio ar ôl i fachgen 10 oed gael ei ladd gan gi mewn parc carafanau yng Nghernyw.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ardal Logh am oddeutu 5 o’r gloch fore heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 13).
Cafwyd hyd i gorff y bachgen ar y safle.
Fe fu’r heddlu’n chwilio am y ddynes a’r ci yn dilyn y digwyddiad, a chafodd ei harestio yn ardal Saltash rai oriau’n ddiweddarach.
Mae’r ci yng ngofal yr awdurdodau.