Mae cricedwr sydd wedi’i gael yn euog o dreisio dynes wrth iddi gysgu, a hynny fel rhan o gêm WhatsApp, yn wynebu cyfnod o garchar.

Roedd Alex Hepburn, 23, wedi creu rheolau’r “gêm”, oedd yn mynnu bod rhaid iddo fe a’i ffrindiau gael rhyw â chynifer o ferched â phosib.

Cafwyd e’n euog yn Llys y Goron Caerwrangon o un cyhuddiad, ond yn ddieuog o gyhuddiad arall.

Clywodd y llys fod y ferch yn credu ei bod hi’n cael rhyw â Joe Clarke, ei gyd-chwaraewr, mewn fflat yn y dref.

Roedd hi wedi cydsynio i gael rhyw â fe, meddai, ar ôl bod allan am y noson ym mis Ebrill 2017.

Fe adawodd Joe Clarke ei ystafell i fynd i’r ystafell ymolchi ond fe aeth yn anymwybodol a gadael y ferch yn ei ystafell.

Roedd Alex Hepburn wedi yfed hyd at 20 o boteli o gwrw cyn i’r ddynes ei gusanu yn y gwely ond sylweddolodd hi nad Joe Clarke oedd e ar ôl clywed ei acen Awstralia.

Mae Alex Hepburn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Henffordd maes o law.