Mae’r BBC wedi dod i gytundeb gyda undeb yr NUJ ynglyn â dod o hyd i swyddi newydd i staff sy’n wynebu cael eu diswyddo.

Cafodd y cytundeb ei wneud cyn i’r gorfforaeth gyhoeddi newidiadau fory fel rhan o’u rhaglen Delivering Quality First, a allai olygu bod cannoedd yn colli eu swyddi.

Yn dilyn y cytundeb heddiw, dywedodd yr NUJ na fyddan nhw’n parhau a’u dadl ynglyn â diswyddiadau  gorfodol oedd wedi arwain at gynnal sawl streic dros yr haf.

Mewn neges i aelodau’r NUJ yn y BBC heddiw, dywedodd yr undeb bod “newidiadau hanfodol” wedi cael eu gwneud i’r ffordd mae’r gorfforaeth yn delio â diswyddiadau.

Dywed yr NUJ y bydd yn golygu bod y BBC yn ceisio dod o hyd i swyddi newydd o fewn y gorfforaeth i weithwyr sydd â’r sgiliau anghenrheidiol.

Dywedodd Helen Ryan o undeb Bectu eu bod yn croesawu’r cytundeb a’i fod yn  bwysig nad oedd staff yn gadael y BBC heb fod angen, gan olygu colli sgiliau a phrofiad.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Mae’r BBC wedi dod i gytundeb gyda’r undebau ynglyn â nifer o newidiadau i’r broses adleoli er mwyn cynnig mwy o help i staff sy’n wynebu cael eu diswyddo a sy’n dymuno cael eu hadleoli.”

.