Gallai Brexit fethu oni bai bod y Ceidwadwyr yn cyfaddawdu â’r Blaid Lafur, yn ôl Theresa May.

Mae prif weinidog Prydain wedi cael ei chyhuddo hyd yn hyn o fethu â symud oddi wrth ei chynllun gwreiddiol ac o wrthod cyfaddawdu.

Ond mae’n dweud bellach fod lle i gyfaddawdu ynghylch safbwyntiau’r ddwy blaid.

Mae’n dweud y gallai cyfaddawd olygu bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o fewn chwe wythnos, ond fod methu â chyfaddawdu’n golygu y gallai Brexit gael ei ganslo’n gyfangwbl.

Mae Jeremy Corbyn, arweinydd Llafur, am weld yr undeb tollau yn rhan o’r cytundeb, ac mae rhai o fewn ei blaid yn awyddus i gael pleidlais sêl bendith ar y cynllun, er bod eraill yn bwriadu gwrthdystio pe bai hynny’n digwydd.

Mae rhai o’r Ceidwadwyr eisoes yn ddig y gallai Brexit gael ei ohirio.

Ymestyn yr ymadawiad

Bydd Theresa May yn teithio i Frwsel ddydd Mercher (Ebrill 10) i ofyn am estyniad tan Fehefin 30.

Gallai’r ymadawiad ddigwydd cyn hynny pe bai cytundeb yn ei le.

Ond mae’r Undeb Ewropeaidd yn ffafrio estyniad hir yn hytrach nag ymestyn fesul dipyn.

Mae Theresa May yn cydnabod na all Prydain adael heb gytundeb bellach, yn dilyn pleidlais yn San Steffan.

“Am fod y Senedd wedi egluro y bydd yn atal y DU rhag gadael heb gytundeb, mae gennym ddewis cadarn erbyn hyn: gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb neu beidio â gadael o gwbl,” meddai.

“Mae fy ateb i hynny’n eglur: rhaid i ni gyflwyno Brexit ac er mwyn gwneud hynny, rhaid i ni ddod i gytundeb.”