Mae gweinidog Ceidwadol yn rhybuddio y byddai’r blaid yn cyflawni “hunanladdiad” pe bai’n rhaid iddyn nhw gymryd rhan yn etholiadau’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal ar Fai 23, ond mae diffyg cyfaddawd rhwng y Llywodraeth a’r Blaid Lafur yn San Steffan yn golygu ei bod yn annhebygol y bydd cytundeb ar ymadawiad Prydain cyn hynny.

Mae Nadhim Zahawi, y gweinidog addysg, yn rhybuddio bod angen datrys y sefyllfa’n gyflym er mwyn osgoi’r “bygythiad i fodolaeth” y Ceidwadwyr.

“Dw i’n credu y byddai’n nodyn hunanladdiad i’r Blaid Geidwadol pe bai’n rhaid i ni frwydr yn etholiadau Ewrop,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

Mae’n galw am bleidlais arall yn San Steffan pe na bai modd dod i gytundeb â’r Blaid Lafur.

Mae Downing Street eisoes wedi cynnig rhagor o drafodaethau dros y penwythnos i geisio dod i gytundeb, ond mae Llafur yn dweud bod rhaid cael “newidiadau go iawn” cyn y byddan nhw’n cytuno i gynnal rhagor o drafodaethau.

Mae’r Canghellor Philip Hammond yn dweud ei fod yn ffyddiog fod cytundeb yn bosib, ond mae Llafur yn parhau i wthio am aros yn yr undeb tollau a’r farchnad sengl ac yn galw am warchod hawliau, yn ogystal â “rhyw fath o Bleidlais y Bobol”.

Mae arweinwyr Ewrop yn paratoi i ystyried gohirio ymadawiad Prydain, ac mae disgwyl penderfyniad ddydd Mercher (Ebrill 10).

Mae Theresa May yn awyddus i ohirio’r ymadawiad tan Fehefin 30, ond atal gorfod cymryd rhan yn etholiadau Ewrop pe bai’n dod yn agos at gytundeb.

Mae Donald Tusk, llywydd Cyngor Ewrop, yn awgrymu gohirio am flwyddyn oni bai bod cytundeb cyn hynny, ond byddai angen sêl bendith y 27 o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd.