Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Josh Hanson, 21, yng ngorllewin Llundain dair blynedd a hanner yn ôl.

Cafodd Shane O’Brien ei arestio yn Rwmania fis diwethaf, ac fe aeth gerbon Llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 6) i wynebu’r cyhuddiad.

Cafodd Josh Hanson ei drywanu i farwolaeth mewn bar yn Hillingdon fis Hydref 2015.

Cafwyd hyd iddo wedi cael anafiadau difrifol i’w wddf, ac fe fu farw o waedu yn y fan a’r lle.

Bydd Shane O’Brien yn ymddangos yn yr Old Bailey ddydd Mawrth (Ebrill 9).

Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar Fai 3.