Ffrwgwd mewn clwb nos a’r achos llys a ddilynodd yw’r “peth gorau allai fod wedi digwydd” i Ben Stokes, cricedwr amryddawn Lloegr.

Daw sylwadau’r cricedwr ar ôl blwyddyn gythryblus yn sgil ffrwgwd yng nghanol dinas Bryste ar noson allan gyda’i gyd-chwaraewr Alex Hales.

Cafwyd e’n ddieuog o ffrwgwd fis Awst y llynedd, ar ddiwedd achos llys a barodd chwe niwrnod yn Llys y Goron Bryste.

Yn sgil yr helynt, chafodd e mo’i ddewis ar gyfer Cyfres y Lludw yn Awstralia yn ystod y gaeaf.

Mae’r dyn 27 oed bellach yn chwarae i Rajasthan Royals yn yr Indian Premier League.

“Mae’n rhaid ei fod e’n rhywbeth yn yr isymwybod fy mod i mor agos at ddiwedd fy ngyrfa a’i thaflu i ffwrdd fel yna, a meddwl y byddai’r cyfan yn cael ei dynnu oddi arna i,” meddai wrth y Daily Mirror.

“Efallai mai dyna’r peth sydd wedi newid y ffordd dw i’n gwneud pethau.

“Mae’n swnio’n dwp, ond ai Bryste oedd y peth gorau allai fod wedi digwydd i fi?”

Mae’n dweud nad yw’n mynd am nosweithiau allan i yfed erbyn hyn.

Achos llys

Er iddo wadu’r cyhuddiad o ffrwgwd yn y llys, plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ddwyn anfri ar y byd criced yn ystod gwrandawiad Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Cafodd ei wahardd am wyth gêm a dirwy o £30,000.

Er iddo fod allan am 16 o gemau, mae’n dweud ei fod e wedi dychwelyd i’r cae criced yn rhy fuan ar ôl yr helynt.

“Roedd yr achos yn anodd a phopeth ar ôl hynny hefyd,” meddai.

“Byddwn i’n dweud mai dyna bythefnos mwyaf anodd fy mywyd.

“Roedd cerdded allan yn Trent Bridge yn ofnadwy.”