Mae cyflwynydd newydd Question Time sydd wedi gweithio i’r BBC ers 30 o flynyddoedd, wedi beirniadu’r “awyrgylch ofnadwy” yn swyddfeydd a stiwdios y Gorfforaeth yn y gorffennol.

Doedd y BBC “ddim yn le neis i fod” yn ôl Fiona Bruce, sy’n honni bod un o’i bosus yn y BBC awgrymu nad oedd angen codiad cyflog arni oherwydd y gallai ddibynnu ar ei chariad i’w chynnal.

“Roedd yn awyrgylch ofnadwy – pobol yn ymddwyn yn ddigyfaddawd, yn bitshi, doedd ddim yn le neis i fod,” meddai Fiona Bruce, 54, wrth gylchgrawn Vogue.

Ymunodd y cyflwynydd gyda’r BBC  yn 1989 fel ymchwilydd i raglen Panorama, a hi oedd y ferch gyntaf i ddarllen y newyddion ar News At Ten.

Erbyn hyn mae Fiona Bruce yn cael mwy na £350,000 y flwyddyn gan y BBC.