Mae’r heddlu’n chwilio am saethwr sydd wedi ffoi ar ôl anafu dyn 22 oed yn nwyrain Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Walthamstow fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 31) yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei saethu.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.

Fe ddigwyddodd ryw dair milltir o Edmonton, lle cafodd pedwar o bobol eu trywanu dros nos.