Mae’r heddlu’n cysylltu pedwar achos o drywanu yng ngogledd Llundain, ar ôl i bedwar o bobol orfod derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Mae dau ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol yn dilyn y digwyddiadau yn ardal Edmonton.

Fe ddigwyddodd yr holl ymosodiadau rhwng 7.02 neithiwr (nos Sadwrn, Mawrth 30) a 9.43 fore heddiw (dydd Sul, Mawrth 31).

Mae’r heddlu’n credu mai un dyn sy’n gyfrifol am yr holl ymosodiadau, a bod ganddo fe broblemau iechyd meddwl.

Cafodd dyn ei arestio heddiw ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.