Mae dyn 25 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth ger mosg yn Llundain nos Iau (Mawrth 28) wedi cael ei enwi.
Dydy’r heddlu ddim wedi dod o hyd i’r rhai oedd wedi ymosod ar Zahir Visitor yn ardal Cunningham Place yng ngogledd-orllewin y ddinas.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth am ddau unigolyn.
Mae lle i gredu eu bod nhw wedi rhedeg i ffwrdd i gyfeiriad Regent’s Park yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd dyn yn ei 40au ei drywanu i farwolaeth yn ei gar ger gorsaf danddaearol Clapham Common brynhawn ddoe (Mawrth 29).