Mae Tesco wedi datagleu cynnydd mewn elw o 6.2% yn y chwe mis diwethaf.

Gwelodd yr archfarchnad elw eu cwmni yn codi i £1.9 biliwn yn y 26 wythnos hyd at 27 Awst – er gwaetha’ gostyngiad mewn gwerthiant nwyddau o 0.5%.

Mae’r archfarchnad yn nodi bod gwerthiant nwyddau wedi gostwng yn gyffredinol dros y chwe mis diwethaf, gyda gwerthiant teclynnau electronig ac adloniant yn dioddef yn fawr oherwydd y sefyllfa economaidd.

Dywedodd yr archfarchnad, a fu’n lansio’u hymgyrch £500 miliwn ‘Big Price Drop’ yw wythnos diwethaf, fod gwerthiant heb TAW a phetrol wedi disgyn 0.9% yn y tri mis hyd at 27 Awst – ar ôl disgyn o 0.1% yn y tri mis cynt.

Hwb ym marchnadoedd Asia

Ond er gwaetha’r ffaith bod y sefyllfa’n gwaethygu yn y Deyrnas Unedig, mae’r grŵp wedi cofnodi cynydd o 6.2% mewn elw – diolch i hwb mewn gwerthiant ym marchnadoedd Asia.

Yno, fe gododd eu ffigyrau gwerthiant 8.8%, i £35.5 biliwn