Cafodd Llywodraeth Prydain ei threchu o 329 i 302 ddoe (dydd Llun, Mawrth 25) wrth i Aelodau Seneddol bleidleisio i gynnal pleidlais er mwyn dod o hyd i’r opsiwn gorau ar Brexit.
Fe fydd y bleidlais honno’n cael ei chynnal yfory (dydd Mercher, Mawrth 26).
Mae 30 o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr wedi pleidleisio’n erbyn y Llywodraeth, gan gynnwys tri gweinidog.
Penderfynodd Richard Harrington, Alistair Burt a Steve Brine ymddiswyddo oherwydd bod Brexit yn rhoi busnes arall y Ty yn y fantol.
Mae hyn yn ergyd newydd i’r Prif Weinidog, Theresa May, er ei bod hi’n dweud nad oes sicrwydd y bydd hi’n cadw at ddymuniad yr Aelodau Seneddol ac yn cynnal y fōt.
Mi fydd Gweinidogion yn ystyried eu hymateb mewn cyfarfod Cabinet yn Downing Street heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 25).