Mae’r rheithgor yn achos David Duckenfield, prif swyddog yr heddlu adeg Trychineb Hillsborough, wedi bod yn ystyried eu dyfarniad.

Fe ddechreuodd y chwe dyn a’r chwe dynes ystyried eu dyfarniad y bore yma (dydd Llun, Mawrth 25), a hynny yn dilyn achos sydd wedi para 10 wythnos yn Llys y Goron Preston.

Mae David Duckenfield, 74, a oedd yn gyfrifol am weithrediadau’r heddlu ar ddiwrnod gêm gwpan rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989, wedi gwadu dynladdiad 95 o gefnogwyr Lerpwl yn sgil esgeulustod.

Bu farw 96 o bobol o ganlyniad i drychineb y diwrnod hwnnw, pan gawson nhw eu gwasgu ar deras Leppings Lane.

Yn ôl y gyfraith ar y pryd, dyw David Duckenfield ddim yn gallu cael ei erlyn am farwolaeth un o’r cefnogwyr, sef Tony Bland, oherwydd iddo farw mwy na blwyddyn wedi’r trychineb.

Yr achos

Mae David Duckenfield yn cael ei erlyn ochr yn ochr â chyn-ysgrifennydd clwb pêl-droed Sheffield Wednesday, sy’n gwadu torri rheolau’n ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Yr honiad yw bod Graham Mackrell, 69, wedi methu â gweithredu rheolau iechyd a diogelwch drwy sicrhau bod digon o dro-gatiau ar gyfer nifer y cefnogwyr oedd yn aros i gael mynediad.

Clywodd y llys fod yna saith dro-giât ar gyfer y 10,100 o gefnogwyr Lerpwl a oedd â thocyn sefyll ar gyfer y gêm.

Roedd David Duckenfield, a oedd yn newydd i’w swydd, wedi gorchymyn agor gatiau i’r stadiwm ar ôl i dyrfa fawr ymgasglu y tu allan.

Fe wnaeth 2,000 o gefnogwyr gael mynediad i’r stadiwm wedi hynny, gyda nifer ohonyn nhw’n gwneud eu ffordd drwy’r twnnel a oedd yn arwain at y lloc ynghanol y teras, lle cafodd nifer eu gwasgu i farwolaeth.

“Diragfarn a gwrthrychol”

Cyn rhyddhau’r rheithgor, fe ddywedodd y barnwr fod angen iddyn nhw fod yn “ddiragfarn a gwrthrychol” wrth ddyfarnu.

“Mae marwolaeth y 96 cefnogwr, gan gynnwys llawer a oedd yn ifanc iawn, yn drychineb dynol sy’n parhau i ennyn yr un tristwch a dicter heddiw fel ag yr oedd 30 mlynedd yn ôl,” meddai.

“Mae’n ddealladwy, ac yn anochel, fod yna gyfnodau emosiynol wedi bod yn ystod yr achos, fel y mae nifer ohonoch chi’n ymwybodol ohono.

“Ond, wrth i chi fynd i gyflawni eich dyletswyddau i ddarparu dyfarniadau sy’n seiliedig ar y dystiolaeth, mae’n rhaid ichi roi eich teimladau a’ch tosturi o’r neilltu, a gwneud penderfyniadau yn dilyn adolygiad diragfarn a gwrthrychol o’r dystiolaeth.”

Fe fydd y rheithgor yn ail-ddechrau ystyried eu dyfarniad bore fory (dydd Mawrth, Mawrth 26).