Mae Philip Hammond wedi beirniadu Aelodau Seneddol sydd, yn ôl adroddiadau, yn cynllwynio i ddisodli’r Prif Weinidog.

Dywedodd y Canghellor na fyddai cael gwared a Theresa May yn “datrys y broblem”, er gwaetha’r feirniadaeth lem sydd wedi bod o’r modd mae hi wedi delio gyda phroses Brexit a galwadau gan aelodau o’i phlaid i gamu o’r neilltu.

Fe ddaeth sylwadau Philip Hammond ar raglen Sky News Sophy Ridge On Sunday wrth iddo ymateb i adroddiadau yn y papurau newydd fod ymgais ar y gweill i gael gwared a’r Prif Weinidog.

“Rhwystredig”

Serch hynny, roedd wedi cydnabod bod “pobl yn teimlo’n rhwystredig ac yn awyddus iawn i ddod o hyd i ffordd ymlaen” yn y pythefnos sydd ar ôl i ddatrys y mater.

“Fyddai newid y Prif Weinidog ddim yn ein helpu ni, na newid y blaid sydd mewn Llywodraeth: mae’n rhaid i ni fynd i’r afael a’r cwestiwn o sut fath o Brexit sy’n dderbyniol i’r Senedd.”

Fe ychwanegodd y byddai’r Senedd yn cael y cyfle i bleidleisio ar gynlluniau amgen i gytundeb Brexit Theresa May yr wythnos hon ond dywedodd nad oedd penderfyniad wedi cael ei wneud a fyddai Ceidwadwyr yn cael pleidlais rydd ar y mater.

Ac ar ol i filoedd o bobol orymdeithio i’r Senedd ddydd Sadwrn (Mawrth 23) yn galw am “Bleidlais y Bobol” dywedodd Philip Hammond bod cynnal ail refferendwm “yn rhywbeth sy’n haeddu cael ei ystyried ynghyd a chynigion eraill.”

Yn y cyfamser mae dirprwy Theresa May, David Lidington wedi wfftio awgrymiadau ei fod yn barod i gamu i’r adwy, ac mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Iain Duncan Smith wedi beirniadu gweinidogion y Cabinet sydd, yn ol pob tebyg, wedi bod yn cynllwynio yn erbyn Theresa May, gan ddweud y dylen nhw ymddiheuro a “chadw’n dawel”.

Ac fe rybuddiodd yr Ysgrifennydd Brexit Steve Barclay bod yna risg y byddai’n rhaid cynnal etholiad cyffredinol petai Aelodau Seneddol yn cymryd rheolaeth o’r broses.