Mae dyn 19 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio yn dilyn marwolaeth dynes a gafodd ei tharo gan gar.

fe fu farw’r ddynes 52 oed yn y fan a’r lle ar ôl i’r gwasanaethau brys gael eu galw i barc carafanau Whitegates yn Dunscroft, ger Doncaster, ddydd Gwener.

Yn ôl Heddlu De Swydd Efrog roedd y cerbyd oedd yn gysylltiedig â’r digwydd wedi gadael y safle a chafodd Citroen Berlingo coch ei ddarganfod yn ddiweddarach.

Mae Costica Mihai, o Balby, Doncaster wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth a’i gadw yn y ddalfa. Fe fydd yn mynd gerbron Ynadon Doncaster fore dydd Llun (Mawrth 25).

Mae llanc 17 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r farwolaeth wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Roedd post mortem gafodd ei gynnal nos Wener yn dangos bod y ddynes wedi marw o ganlyniad i nifer o anafiadau.

Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y cerbyd yn cael ei yrru rhwng Dunscroft a Wadworth cyn y gwrthdrawiad tua 1.50pm.