Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei drywanu mewn eiddo yng ngogledd ddwyrain Llundain.

Cafodd swyddogion Scotland Yard eu galw yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu mewn eiddo yn Pinner, tua 6yb bore ma (dydd Sul, Mawrth 24).

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Dywedodd yr Heddlu Metropolitan bod ymchwiliad ar y gweill i geisio adnabod y dyn a chysylltu â’i deulu.

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi cael ei lansio ac mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.